Disgrifiad o'r llwybr
O’r llithrfa, dilynwch y llwybr gwrychog i ddod allan yn yr harbwr. Cerddwch ar hyd y cei heibio’r tŵr gwylio. Cerddwch i fyny ochr dde Caffi’r Llofft Hwyliau (‘Sail-Loft’). Croeswch y ffordd a dilynwch y lôn i’r maes parcio. Ewch drwy’r maes parcio, ac allan ar y llwybr. Ewch drwy giât mochyn y tu ôl i’r ty^ a dilynwch lwybr drwy lecyn grugog o gwmpas cilfach Llam Carw i fyny at giât mochyn. Dilynwch lwybr treuliedig ac ewch dros ddwy bompren fechan. Ewch drwy giât mewn wal. Daliwch i ddilyn y llwybr, dros draen ac i lawr dau ris. Croeswch wal derfyn, i ddod allan drwy giât yn Ffynnon Eilian. Croeswch nant, ewch i fyny rhiw, drwy giât, croeswch gae a thrwy giât arall. Ewch i fyny set o risiau cerrig, ac i lawr y rhiw i bont fechan a giât.
Ym Mhorthyrychen, croeswch bont fechan arall a thrwy giât. Ewch i’r chwith rownd ymyl y cae o’ch blaen, drwy giât ac i lawr i lecyn o eithin. Ewch drwy giât mochyn i ymuno â llwybr caeedig sy’n eich arwain rownd i Borth Eilian. Ewch drwy giât arall i ddod allan ar y ffordd.
Ewch heibio’r llithrfa i lawr i’r traeth, ac ewch i’r chwith o flaen y tŷ gwyn i fyny’r ffordd. Croeswch y grid gwartheg a dilynwch y lôn. Cyn y fynedfa i Drwyn Eilian, trowch i’r dde ar lwybr (fe geir llwybrau i fynd ar Drwyn Eilian ei hun). Dilynwch y wal ar y dde i chi, drwy’r giât mochyn ac, yn union cyn y polion telegraff, ewch i’r dde. Croeswch gae i lawr i’r arfordir, ac i fyny at giât ym Mhorth y Corwgl. Ewch i fyny’r rhiw, drwy giât mochyn a dilynwch yr arfordir gan fynd i’r chwith yn Ogo’r Rhedyn.
Ewch i lawr i bant dros gamfa, allan i gae a thrwy giât. Ewch i’r dde a byddwch yn croesi pont dros nant yn Freshwater Bay. Ewch i fyny’r rhiw gan ddod allan mewn cae a chan gerdded yn gyfochrog â’r arfordir. Ewch dros bompren fechan mewn pant ac ar ôl mynd i fyny ac i lawr un neu ddau o risiau, byddwch yn pasio llwybr cyhoeddus i’r arfordir. Ewch yn eich blaen i lawr y rhiw, gan gadw i’r chwith i groesi dwy ffos ddraenio a cherddwch ar draws y cae. Ewch i lawr rhywfaint o risiau a chroeswch bompren a chadwch i’r dde gan fynd i fyny rhiw at giât y tu cefn i Borthygwichiaid. Ewch drwy’r giât a dilynwch y wal ar y dde. Ar ôl croesi draen, ewch i’r chwith tua’r arfordir. Dilynwch yr arfordir
drwy fwlch yn y wal, a chan gadw’n agos at yr arfordir, ewch drwy fwlch yng ngwaelod ffens. Pasiwch dros ddwy bompren fechan islaw Rhos-Mynach Isaf, a chroeswch bowlen laswelltog serth, i fyny at giât. Croeswch lwybr arall, dros giât a thrwy borth, gan fynd tuag at yr arfordir unwaith eto. Dilynwch derfyn chwith y cae, croeswch nant ym Mhorth yr Aber, i fyny set o risiau ac ar hyd gwaelod cae. Ar ôl cyrraedd llinell o goed ffynidwydd (‘Scots Pine’), trowch tua’r tir a dilynwch derfyn y cae drwy giât mochyn a thros dair camfa. Gan ymuno â thrac, cariwch yn syth ymlaen, dros gamfa gul, a thros gamfa arall i ddod allan ar lôn wrth dŷ.
Cariwch yn syth yn eich blaen, heibio ‘Keeper’s Lodge’ ar y dde, ac yn union ar ôl ychydig o gytiau fferm, a chyn Plas Uchaf ar y dde, trowch i’r chwith drwy hen fuarth fferm. Fe ddowch allan mewn cae a dilynwch y gwrych ar y chwith i chi, i fynd dros gamfa i lôn. Trowch i’r chwith.
Dilynwch y lôn, heibio Eglwys Llangwenllwyfo, ar draws y lôn at Stad Dulas, i’r pen pellaf lle byddwch yn ymuno â Moryd Dulas (‘Dulas Estuary’). Trowch i’r dde, dros ffos ddraenio wrth Coch Willan Bach, a dilynwch lannau’r foryd heibio Min y Don. Fe fyddwch yn mynd drwy faes parcio, ac yn ymuno â lôn. Yn weddol fuan, trowch i’r chwith (cyn y ty^ ar y dde i chi), dros bompren fechan a thrwy giât. Croeswch bompren fwy, a chroeswch lecyn o gors ac ewch drwy giât.
Gan gerdded yn gyfochrog â llecyn isel o gors, anelwch at y bont fawr. Ar ôl cyrraedd pâr o gilbyst cerrig, trowch i’r chwith a chroeswch y bont drwy’r ddwy giât. Cerddwch i fyny’r cae, gan ddilyn y gwrych ar y chwith i chi, a chan fynd i’r chwith yn y pen uchaf i ddod i drac. Ewch drwy’r giât mochyn, ar hyd trac, a throwch i’r dde ar hyd y lôn at Bentre Eiriannell. Yn y ffordd fawr, trowch i’r chwith, ac i’r chwith unwaith eto yn y ‘Pilot Boat Inn’, dros gamfa ac i fyny’r cae gyda therfyn y cae ar y chwith i chi.
Ym mhen uchaf y cae, ewch drwy giât, a chariwch yn syth ymlaen ar hyd trac. Ym mhen pellaf trac, ewch drwy giât arall, ac ar draws cae gan basio i’r chwith o bwll. Fe ddechreuwch fynd i lawr, drwy giât arall, a heibio porth. Ewch i’r chwith o amgylch llecyn bach wedi’i ffensio ac anelwch i lawr y rhiw tuag at y ty^ ar y dde at giât mochyn. Ewch drwy’r giât, ewch i’r dde ar hyd llwybr wedi’i ffensio, rhwng y ty^ a garej, i ddod allan ar lôn.
Trowch i’r chwith ar hyd y lôn a, lle mae’r lôn yn fforchio (ger tŷ Tan y Banc), cymrwch y llwybr sy’n fforchio i’r dde (yn syth yn eich blaen fwy neu lai). Yn Penrhyn ewch i’r chwith, ac i’r chwith eto i fynd ar lwybr. Dilynwch y llwybr caeedig i ddod allan ar Draeth yr Ora. Trowch i’r dde, rhan o’r ffordd i lawr y grisiau, ac yna gan fynd i’r dde, ewch i fyny set o risiau a thrwy giât. Ewch i’r chwith gan gadw at ymyl y cae a dilynwch y morlin (‘coastline’). Ewch drwy giât ac i’r dde ar hyd y llwybr sydd wedi’i ffensio.
Ewch i lawr i draeth Porth y Môr ac yna i fyny set o risiau oddi ar y traeth i fynd yn ôl ar lwybr wedi’i ffensio. Ewch heibio’r wylfa yn Nhrwyn Porth y Môr, croeswch bompren fechan drwy giât mochyn, i lawr ac i fyny set o risiau, i ddod allan yn Llugwy. Croeswch y maes parcio, gan fynd i’r dde ar hyd llwybr ar hyd ymyl y twyni. Ewch dros bompren goncrid, ac yna bompren fawr. Ewch yn syth ymlaen drwy’r twyni (nifer o lwybrau sy’n eich arwain i’r un lle) i ddod allan i faes parcio arall gyda thoiledau a chaffi.
Croeswch y maes parcio, ewch heibio’r caffi, a chymrwch y llwybr gan anelu tua’r dwyrain. Ewch i lawr ac i fyny set o risiau, ar draws wal gynnal (‘revetment’) gan ddilyn llwybr caeedig. Ewch drwy giât mochyn, ar hyd ymyl chwith cae y tu ôl i Borth Forllwyd, drwy giât arall, gan fynd i’r chwith wrth y ty^. Dilynwch y wal rownd, ewch drwy giât arall, ar hyd llwybr wedi’i ffensio, i fynd i’r dde gan ddilyn yr arfordir. Ewch drwy safle hen chwarel, i lawr ac i fyny ychydig o risiau, ac fe ddowch i lwybr ar y dde sy’n eich arwain at gofeb y ‘Royal Charter’. Cariwch yn syth yn eich blaen, i lawr ychydig o risiau, gan groesi dwy nant, i fyny ychydig o risiau a thrwy giât i mewn i faes carafannau.
Edrychwch am giât mochyn i’r chwith a dilynwch y rhan gaeedig hyd oni ddewch at giât ac mae’n agor i’r penrhyn sy’n edrych dros Ynys Moelfre. Fe allwch fynd i’r chwith i fynd o gwmpas y penrhyn, os dymunwch wneud hynny. Wrth ddod oddi ar y penrhyn, fe fyddwch yn ymuno â’r lan yn Y Swnt.
Croeswch gefn y traeth, i fynd ar lwybr ag wyneb arno. Ewch i’r dde, gan groesi lôn i ddilyn y llwybr hwn heibio Gorsaf y Bad Achub a Gwylfan Moelfre (‘Seawatch Centre’). Pasiwch hen orsaf y bad achub, heibio rhes o fythynnod, gan fynd i’r dde i ymuno â’r ffordd ym Mhorth Moelfre. Trowch i’r chwith ar hyd y lôn i gyrraedd glan y môr ym mhentref Moelfre.



