Llwybr Arfordirol: Cemaes i Borth Amlwch
Disgrifiad llwybr a lawrlwythiad map ar gyfer rhan 3 o Lwybr Arfordirol Ynys Môn.
Mae'r disgrifiad o'r llwybr wedi'i gynnwys isod a gellir hefyd ei lawrlwytho fel ffeil i'w storio ar eich dyfais pan fyddwch allan ar y daith.
Disgrifiad o'r llwybr
Cerddwch ar hyd Stryd y Bont, dros y bont, a gyferbyn â throad Gwelfor, ewch i’r chwith i lawr i faes parcio.
Cerddwch drwy’r maes parcio, ar hyd y promenâd a thrwy faes parcio arall. Dechreuwch gerdded i fyny’r lôn, gan droi i’r chwith i ddringo set serth o risiau ar hyd llwybr y clogwyn (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – Penrhyn Mawr). Ewch i’r dde lle mae’r llwybrau’n rhannu ac ewch drwy giât mochyn. Ewch i’r chwith ar hyd ymyl y cae, o gwmpas y penrhyn. Ewch drwy giât arall, i lawr ac i fyny set o risiau drwy safle hen chwarel a thrwy giât arall. Cerddwch ar draws y cae i gyfeiriad ‘White Lady Rock’.
Ewch drwy giât, i lawr ac i fyny dwy set o risiau, a dilynwch lwybr caeedig. Pan gyrhaeddwch fae Porth Padrig, fe allwch naill ai groesi’r traeth neu gymryd llwybr i fyny lôn at Eglwys Llanbadrig.
Os dewiswch fynd i’r traeth, ewch yn syth yn eich blaen, drwy giât, ac ewch i lawr i’r tywod, ac yna i fyny llethr raddol i fynd ar benrhyn ‘Trwyn Llanbadrig’. Ganymddolennu tua’r dwyrain, rownd y penrhyn, fe fyddwch yn mynd yn ôl i’r prif lwybr y tu ôl i’r fynwent. I osgoi cyfyngiadau’r llanw, trowch i’r dde yng nghyffordd y llwybr, i fyny llwybr wedi ei ffensio i ymuno â lôn. Trowch i’r chwith, a dilynwch y lôn i fyny at Eglwys Llanbadrig. Cyn yr eglwys, trowch i’r chwith drwy giât a dilynwch y wal rownd y fynwent, gan fynd i’r dde.
Ewch drwy giât, a dilynwch linell y ffens ar y dde i chi yn union heibio Ogof Gynfor. Ewch yn eich blaen i fyny rhiw, gan fynd i’r chwith ar ôl cyrraedd wal. Ewch drwy giât mochyn, ac unwaith eto dilynwch ffens ar y dde i chi. Ewch i’r dde, i lawr set o risiau, a dilynwch y wal ar y dde i chi sy’n rhedeg yn gyfochrog â’r morlin (‘coastline’). Ewch i fyny’r rhiw, drwy’r ddwy giât mochyn, ac unwaith eto daliwch i ddilyn y wal ar y dde i chi i fyny’r rhiw. Gan fynd am i lawr, ewch i lawr set o risiau i gyrraedd Porth Llanlleiana.
O Borth Llanlleiana fe allwch gymryd llwybr mwy serth i fyny at Dinas Gynfor neu lwybr haws o gwmpas cefn y penrhyn. Ar gyfer y llwybr haws, ewch i’r dde o flaen yr hen adeilad, drwy giât, a dilynwch drac o gwmpas cefn y penrhyn. Ewch i’r chwith ar ôl
cyrraedd cyffordd yn y llwybrau, gan ddilyn llwybr sy’n mynd i fyny’n raddol i gyfarfod pen pellaf y llwybr serth wrth ddynesu at Borth Cynfor.
Ar gyfer y llwybr mwy serth, daliwch yn syth yn eich blaen rhwng pen pellaf yr adeilad a’r waliau crwn, gan fynd igam ogam i fyny’r llethr serth. Ar ben y rhiw, ewch i gyfeiriad y tŵr gwylio. Cerddwch heibio’r tŵr gwylio, ewch i’r chwith lle mae’r
llwybrau’n rhannu, gan ddilyn cefn y penrhyn. Ymddolennwch i’r dde rownd y penrhyn, i fynd oddi wrth y môr. Lle mae’r llwybr haws yn eich cyfarfod, trowch i’r chwith ac i lawr i Borth Cynfor.
Ewch dros y gamfa, i fyny cyfres o risiau, ac wrth fynd rownd y penrhyn fe ddaw bae Porthwen i’r golwg. Ewch heibio hen winsh ac yna i lawr gan fynd i’r dde tuag at fae Porthwen. Yma, fe allwch ddewis troi i’r chwith i fynd i fyny ar benrhyn Porthwen.
Dilynwch drac treuliedig gyda’r gwaith brics islaw i chi, yna ewch i’r chwith i fynd trwy 2 giât mochyn. Ar ôl yr ail, ewch i’r chwith a dilynwch y gwrych ar eich chwith i groesi dwy bompren fechan. Ewch i’r dde i fyny rhiw, ac yna ymddolennwch i’r chwith wrth frigiad creigiog (‘rocky outcrop’) i groesi nant, a thrwy giât wrth lecyn bach o goetir.
Ewch i gyfeiriad y t gwyn - Castell - o’ch blaen. Dilynwch linell y ffens ar y chwith i chi, gan fynd i’r dde i fyny at giât mochyn, ac yna i lawr i gyfeiriad y t. Ewch dros gamfa, heibio’r t, i fyny’r lôn a chariwch yn syth yn eich blaen lle mae’r lôn yn mynd i’r dde.
Ewch drwy giât fferm ac yn eich blaen ar hyd y trac a chanddo waliau o bobtu iddo. Ar ben y trac, ewch i’r chwith gan ddilyn y morlin. Dilynwch y morlin tua’r dwyrain oddi wrth Porthwen. Ewch drwy giât mochyn, i fyny set o risiau, ac ar hyd yr arfordir yn Allt Ebolion. Ewch drwy giât arall, a daliwch i ddilyn yr arfordir rownd Ogof Pwll y Delysg. Wrth ddynesu at Porth Llechog (‘Bull Bay’), ar ôl cyrraedd y ddwy giât mochyn, cymerwch y giât ar y chwith i chi i fynd rownd penrhyn Trwyn Melyn. Ewch tuag at y t ar y clogwyn, a dilynwch y llwybr rownd dros gamfa, drwy le parcio a thrwy giât ar y chwith. Dilynwch drac ag wyneb arno, i lawr set o risiau, ar hyd llwybr a chanddo waliau o bobtu iddo. Fe ddewch allan wrth westy’r Bull Bay Hotel.
Trowch i’r chwith, ac yn y gyffordd wrth y cwt cwch, trowch i’r chwith. Ar ôl ymuno â’r ffordd fawr, trowch i’r chwith. Ewch yn eich blaen ar hyd y ffordd heibio Gwesty Trecastell. Ym mhen pellaf cilfan barcio, gyferbyn â Chlwb Golff Porth Llechog, trowch i’r chwith ar hyd llwybr caeedig.
Ewch dros gamfa gerrig, i fyny dau ris, i fyny rhiw ac ar draws cae tuag at y fferm ar y gorwel. Ewch i lawr set o risiau, drosgamfa, ac i’r chwith lle mae’r llwybrau’n rhannu. Dilynwch y morlin heibio Traeth Dynion. Cadwch yn agos at yr arfordir ac ewch dros bompren fechan, i ddilyn walgerrig ar y dde i chi. Ewch i’r chwith rownd y wal gan gadw’n agos at yr arfordir. Yn union cyn cyrraedd y gwaith cemegol, trowch i’r dde i groesi draen gan ddilyn wal ar y dde i chi. Ewch i fyny set o risiau, a thrwy’r giât, heibio bwthyn Costog Fawr.
Dilynwch y lôn yn syth yn eich blaen, heibio cyffordd, ac yna trowch i’r chwith dros gamfa gerrig. Ewch i’r dde, gan fynd tuag at stad o dai. Ewch drwy borth, dros lein reilffordd, drwy giât arall i ddod allan ar ffordd. Trowch i’r dde, gan basio troad i’r chwith, ac ewch drwy giât fach ar y chwith i chi i fynd i lawr ar hyd glannau Afon Goch.
Ewch drwy’r giât a chroeswch y cae chwarae. Cerddwch drwy’r maes parcio yn y pen draw, a throwch i’r chwith ar hyd lôn. Bron ar eich union, trowch i’r dde. Fel dewis ychwanegol, fe allwch ddilyn y lôn hon at Drwyn Penwaig. Fel arall, ewch i’r dde ar lwybr glaswellt, dros bont fechan, i ddod allan wrth y llithrfa (‘slipway’) y tu ôl i Borth Amlwch.
Trowch i’r chwith ar hyd llwybr â gwrych o bobtu iddo i ddod allan yn yr harbwr. Cerddwch ar hyd y cei heibio’r tŵr gwylio. Ewch i fyny heibio caffi’r Llofft Hwyliau, rhwng y pyst ar yr ochr dde i’r adeilad, gan groesi ffordd i ddilyn y lôn fach i’r maes parcio cyhoeddus yn Llam Carw.
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Gall taliadau parcio fod yn berthnasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad
Amlwch
Ymweld a'r wefanhttps://www.walescoastpath.gov.uk
Mwynderau
- Toiledau
- Trafnidiaeth cyhoeddus gerllaw
- Parcio ar gael.