Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Rhan o Lwybr Arfordirol Ynys Môn ar ochr ddeheuol yr ynys, yn edrych dros Eryri ar y tir mawr.

Llwybr Arfordirol Ynys Môn

Rhan o Lwybr Arfordirol Ynys Môn ar ochr ddeheuol yr ynys, yn edrych dros Eryri ar y tir mawr.

Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn datblygu llwybr hirbell sy’n dilyn cryn dipyn o forlin yr ynys.

Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn datblygu llwybr hirbell sy’n dilyn cryn dipyn o forlin yr ynys. Mae’r llwybr yn addas ar gyfer cerddwyr yn bennaf, ond fel ellir mwynhau rhai rhannau ar gefn beic neu geffyl. 

Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) sy’n cynnwys 95% o’r arfordir. Mae’n pasio drwy dirwedd sy’n cynnwys cymysgedd o dir fferm, rhostir arfordirol, twyni, morfa heli, blaendraethau, clogwyni ac ambell i boced fach o goetir. Ymhlith y rhain y mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG).

Ffeithiau

Hyd: 130 milltir / 200km
Esgyniad / disgyniad dros y llwybr cyfan: 4,174 medr / 13,695 troedfedd
Man cychwyn swyddogol: Eglwys Sant Cybi, Caergybi (cyfeirnod grid SH247 826)
Cyfartaledd nifer y dyddiadau i'w gwblhau'r daith: 12
Trefi / pentrefi yn uniongyrchol ar y llwybr: 20
Oes modd cwblhau pob rhan yn defnyddio cludiant cyhoeddus: Oes

Rhannau o Lwybr Arfordirol

Gallwch gerdded Llwybr Arfordirol mewn rhannau. Rydym wedi creu disgrifiadau llwybr a mapiau ar gyfer pob rhan. Gallwch weld y gwahanol rannau yn adran eitemau cysylltiedig y dudalen we hon.

Uchafbwyntiau

  • Mynydd Twr (y pwynt uchaf ar yr ynys).
  • Goleudy a chlogwyni môr Ynys Lawd.
  • Bwâu môr ym Mwa Gwyn (Rhoscolyn).
  • Ynys y Fydlyn (Pen Bryn yr Eglwys).
  • Ynys Llanddwyn.
  • Pont y Borth.
  • Pont Britannia.
  • Eglwysi Llangwyfan (Aberffraw) Llanbadrig a Sant Tysilio (Porthaethwy).
  • Gwarchodfa Natur Cemlyn.
  • Trwyn a Phriordy Penmon.
  • Brain Coesgoch, Hebogau Tramor, Gwenoliaid y Môr, Llamhidyddion, Morloi a blodau gwyllt y gwanwyn.

Cyfeillion y Llwybr Arfordirol

Mae Cyfeillion Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn grŵp sy'n ymroddedig i gerdded a chynnal a chadw Llwybr Arfordirol a thraethau Ynys Môn. Mae'r Cyfeillion yn croesawu aelodau newydd ar unrhyw adeg. Mae'r wefan hon yn cynnwys tudalennau o wybodaeth am y Llwybr, gan gynnwys cyfarwyddiadau cerdded manwl a sut allwch chi ddod yn aelod.

Cyfeillion y Llwybr Arfordirol (yn Saesneg).

Bathodynnau a thystysgrifau

Gellir prynu bathodynnau swyddogol a thystysgrif o'r Siop Lwybr Arfordirol Cymru.

Rhanbarth

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol

Manylion Cyswllt


Cyfeiriad

Ynys Môn

Ymweld a'r wefan

https://www.walescoastpath.gov.uk/places-to-go/isle-of-anglesey/?lang=cy

Mwynderau

  • Cyfeillgar i deuluoedd

gerllaw...