Mae'r Llys yn 400 oed. Er iddo gael ei addasu yn yr 19eg ganrif, mae cymeriad hanfodol y llys yr un fath. Heddiw cynhelir achosion yma unwaith y flwyddyn.
Ar hyd y canrifoedd mae'r llys hwn wedi gweld pob math o achosion o flaen y fainc, yn amrywio o fan droseddau i lofruddiaeth.
1768 - Dygodd Hugh Hughes wyth caws a chwarter o gig eidion. Fe'i chwipwyd yn gyhoeddys mewn pedair tref ar yr ynys.
1910 - Dedfrydwyd William Murphy i farwolaeth am iddo ladd ei gariad ar Ddydd Nadolig. Cafodd ei grogi yng Nghaernarfon.
Mae'r Llys yn fan sydd hyd heddiw yn eich gorfodi bron i sefyll ar eich traed a datgan yn uchel "dieuog!"