Cafodd y felin ei hadfer gan Gyngor Sir Ynys Môn yn yr 1980au, mae Melin Llynon bellach dan reolaeth Richard Holt a’i deulu.
Nid yw'r hwyliau wedi troi ers 2018 ar ôl iarolwg blynyddol farnu ei bod yn anniogel i weithredu. Mae’n bleser gennym ddweud bod gwaith adfer wedi’i amserlennu ar hyn o bryd ar gyfer Haf 2022 ac y dylai fod yn weithredol erbyn 2023.
Mae yma hefyd ddau dŷ crwn, sy'n nodweddiadol o fywyd ffermwyr yr Oes Haearn, tua 3000 o flynyddoedd yn ol.
- Cerddwch Llwybr Llynon (tua 2 filltir)
- Adeiladwch eich lloches Oes Haearn gan ddefnyddio ein pecynnau Adeiladu Den.
- Siop - yn gwerthu detholiad o nwyddau a gwaith crefft newydd a dyfeisgar
- Parcio ar y safle
- Digwyddiadau amrywiol drwy'r tymor
- Nid yw Mill Howell, melin ddŵr gerllaw, ar agor i'r cyhoedd ac fel safle preifat nid yw dan ofal Cyngor Sir Ynys Môn.
- Chaniateir cŵn ar y safle.

