O’r fan hon ar arfordir gogleddol Môn mae’n bosibl gweld Ynys Manaw ar ddiwrnod clir. Mae Porth Amlwch yn fan diddorol i ymweld ag o, gyda’i wreiddiau wedi eu hangori mewn gorffennol diwydiannol pan oedd yn gwasanaethu allforiwr copr mwya’r byd – copr oedd yn cael ei fwyngloddio ar Fynydd Parys gerllaw.
O’r porthladd mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn troelli ar hyd copaon isel y clogwyni drwy rostir arfordirol atyniadol. Mae’n gyfle da i werthfawrogi natur greigiog yr arfordir, wrth iddo gael ei atalnodi gan nifer o bentiroedd, cildraethau a chilfachau, gan gynnwys Llam Carw, Aber Cawell, Porth Newydd, Porthyrychen a Phorth Eilian.
Ychydig i’r dwyrain o Borth Eilian mae pentir Trwyn Leinws gyda’i oleudy sgwâr, gwyn. Roedd y goleudy yn lletya goleufa yma ers y 18fed ganrif i rybuddio llongau am yr arfordir peryglus. Roedd ganddo olau go iawn o 1835. Wrth edrych i mewn i’r tir, mae’n bosibl gweld to tal, pyramidaidd Eglwys Sant Eilian ym mhentref Llaneilian. Mae’r eithin a’r rhedyn a’r prysgoed wedi’i fritho gan y rhostir ac yn darparu cynefin da i adar y rhostir fel tinwen y garn a chlochdar y cerrig. Mae’r enw clochdar y cerrig, yn dyst i’w alwad sy’n swnio fel dwy garreg wedi eu taro yn erbyn ei gilydd! Mae heidiau bach o frain coesgoch yn mynychu’r ardal hon, fel mae adar ysglyfaethus fel y cudyll coch a’r hebog tramor. Mae’r ynysoedd alltraeth yn gartref i drefedigaethau o adar môr. Mae hwn yn llecyn arbennig i wylio’r môr ble mae’n bosibl gweld y morlo llwyd (yn yr hydref) a dolffiniaid trwynbwl a llamhidyddion yn yr haf.

