Caiff ei ystyried fel yr enghraifft orau o’i fath yng Nghymru. Mae Cemlyn tua 3 milltir o Gemaes ar arfordir gogledd orllewin Môn. Mae rhwng pentir Trwyn Cemlyn a phentir Cerrig Brith.
Mae’r bae a’r tir o’i gwmpas yn ffurfio rhan o Ystad Cemlyn sydd ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ers 1971 mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru wedi cymryd ardal y morlyn ar brydles ac y maent yn ei reoli fel gwarchodfa natur. Yn ystod misoedd yr haf, mae’r morlyn neu’r lagŵn yn cynnig gwarchodfa i gytref enwog o fôr-wenoliaid a ystyrir o bwysigrwydd cenedlaethol gan ei bod yr unig gytref o’r fôr-wennol bigddu sy’n magu yng Nghymru. Crëwyd y morlyn yn y 1930au gan y Capten Vivian Hewitt oedd yn ŵr cyfoethog. Adeiladodd forglawdd a chored yng Nghemlyn, gan droi’r morfa yn forlyn y gellir ei weld heddiw. Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn adar, ac yn byw yn Bryn Aber, sydd ar ochr orllewinol y bae. Capten Hewitt oedd y cyntaf i hedfan o Gymru i’r Iwerddon, ond cafodd ei orchestion eu bwrw i’r cysgod gan drychineb y Titanic yn 1912.
Mae Llwybr Arfordirol Môn yn croesi’r traeth ac mae gan yr Ymddiriedaeth Genedlaethol gyfres o lwybrau cerdded byr sy’n cynnwys y bae a’r ardal ddarluniadwy o’i gwmpas. Gall y golygfeydd rhyfeddol gael eu gwerthfawrogi o’r meysydd parcio ble mae’n bosibl gweld y wledd o fôr-wenoliaid yn magu dros fisoedd yr haf.
Lagwn Bae Cemlyn
Gwarchodfa Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yw Bae Cemlyn, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA).
Mae’n arbennig o enwog am y gytref fawr o fôr-wenoliaid sydd yma. Mae’r rhain yn cynnwys y fôr-wennol gyffredin a môr-wennol y gogledd, ac un o boblogaethau magu mwyaf y Deyrnas Unedig o fôr-wenoliaid pigddu, sy’n cartrefu ar yr ynysoedd yn y lagŵn yn ystod misoedd yr haf. Mae’r fôr-wennol bigddu yn un o’r adar mudol sy’n cyrraedd Ynysoedd Prydain gyntaf a gellir eu gweld yn aml o amgylch yr arfordir o ddiwedd Mawrth. Maent yn rhywogaeth sydd â chyrhaeddiad pell, yn treulio’r gaeaf o amgylch arfordir Affrica a rhai hyd yn oed ymhellach yn hemisffer y de. Maent hefyd yn hirhoedlog; dangosodd data o adar gafodd eu modrwyo eu bod yn gallu byw hyd at 30 mlynedd. Maent yn adar cymdeithasol, yn nythu gyda’i gilydd mewn cytrefi mawr yn aml ochr yn ochr â rhywogaethau eraill o fôr-wenoliaid.
Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yn cyflogi wardeniaid bob haf yng Nghemlyn i fonitro a diogelu’r cytrefi o fôr-wenoliaid. Mae’r môr-wenoliaid gwridog wedi nythu yn y gorffennol ar y warchodfa, a bu’n gartref i rai bridiau prin o bryd i’w gilydd - y fôr-wennol fraith, y telor pêr a phibydd Terek yn enghreifftiau nodedig. Mae’r warchodfa yn llecyn da i wylio adar môr eraill fel sgiwennod a huganod, yn ogystal ag adar y glannau ac adar gwyllt. Mae hefyd yn fan da ar gyfer adar môr gan gynnwys y trochydd a’r gwyach gopog yn y bae yn y gaeaf. Mae pioden y môr a’r cwtiad torchog yn bridio ar y gefnen graean bras, ac mae’r ardaloedd o brysgwydd a gwlypdir sydd o amgylch y warchodfa yn cynnal clochdar y cerrig, y llwydfron a thelor yr hesg sy’n nythu. Mae’r bae yn lleoliad da ar gyfer gwylio’r môr am famaliaid y môr fel y dolffin trwyn potel a’r morlo llwyd. Mae’r warchodfa hefyd yn arddangos casgliad diddorol o blanhigion yr arfordir gan gynnwys yr ysgedd arfor, y gludlys arfor, betys arfor, pabi corniog melyn, seren y morfa, celyn y môr.

