Fe’i hadeiladwyd yn 1960au i roi cyflenwad o ddŵr yfed i hanner gogleddol Ynys Môn. Mae’r llyn yn gorwedd mewn tirlun agored ac mae ganddo faes parcio eang. Caiff ei ffinio gan lystyfiant, ac mae coetir a phrysgwydd ar hyd ambell ran o lannau’r llyn.
Mae glaswelltir corsiog a phrysgwydd ym mhen gogleddol y llyn, gyda llaid agored o amgylch ffiniau’r llyn pan fydd lefel y dŵr yn isel. Mae nifer o ynysoedd bach yn y gronfa ddŵr.
Mae hyd at 3 milltir o lwybrau o amgylch glannau’r llyn ond nid ydynt yn ffurfio cylch cyfan.

