Llyn Cefni
Yr ail lyn mwyaf o’r llynnoedd wedi eu gwneud â llaw dyn ar Ynys Môn yw Llyn Cefni a leolir yng nghanol yr ynys, tua milltir i’r gogledd o dref Llangefni.
Yr ail lyn mwyaf o’r llynnoedd wedi eu gwneud â llaw dyn ar Ynys Môn yw Llyn Cefni a leolir yng nghanol yr ynys, tua milltir i’r gogledd o dref Llangefni. Codwyd argae ar yr Afon Cefni yn y 1940au, gan greu cronfa ddŵr i gyflenwi dŵr yfed i’r ynys.
Ar hyn o bryd mae rheilffordd segur a alwyd yn Lein Amlwch yn torri’r llyn yn ddwy. Roedd y rheilffordd hon yn ymestyn o Borth Amlwch i bentref Gaerwen ble roedd yn ymuno â’r brif reilffordd. Mae Cymdeithas Bysgota Cefni, a sefydlwyd yn 1952 yn rheoli’r gronfa fel pysgodfa, gyda rhan o’r hanner gogledd ddwyreiniol yn cael ei rheoli fel gwarchodfa natur. Mae dwy brif afon yn llifo i mewn i Lyn Cefni: Afon Frogwy ar yr ochr orllewinol ac Afon Erddreiniog ar yr ochr ogledd ddwyreiniol. Mae’r afon hon yn cysylltu’r llyn â Chors Erddreiniog sy’n Warchodfa Natur Genedlaethol, ac yn ardal cors galchog bwysig. Mae’n hawdd cyrraedd y llyn wrth ddefnyddio llwybr beicio Lôn Las Cefni o Nant y Pandy yn Llangefni, ac mae’n rhannu wrth yr argae ble mae’r afon erbyn hyn yn tarddu. Fel arall mae meysydd parcio wedi’u lleoli ym mhendraw de-orllewin a gogledd ddwyrain y llyn.
I weld rhestr a map o doiledau cyhoeddus ar Ynys Môn, gweler safle we Cyngor Sir Ynys Môn - toiledau cyhoeddus
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Gall taliadau parcio fod yn berthnasol
Cyfeiriad
LLyn Cefni
Mwynderau
- Parcio ar gael.