Nodwedd ddiffiniol y tirwedd yma yw’r arfordir creigiog, dramatig. Mae nifer o gilfachau a childraethau, a llawer o ynysoedd bach alltraeth, gan gynnwys Ynysoedd y Gwylanod ble y saif Goleudwr Rhoscolyn - goleuadau llywio mordwyo a adeiladwyd i rybuddio llongau rhag y creigiau peryglus.
Mae arfordir Rhoscolyn yn enwog am ei bar o fwâu naturiol trawiadol a gerfiwyd o’r clogwyni. Bwa Du a Bwa Gwyn yw eu henwau. Ar fan deheuol eithaf arfordir Rhoscolyn ceir traeth cysgodol Borthwen gyda’i dywod aur. Mae rhai o adar magu mwyaf nodedig yr ardal yn cynnwys y frân goesgoch, yr hebog tramor, y fulfran werdd, y gigfran a’r cudyll coch. Mae ardaloedd o rostir a phrysgwydd yn cynnal poblogaethau o glochdar y cerrig, y llwydfron a thinwen y garn. Mae mynediad ar hyd Llwybr Arfordirol Môn o Drearddur neu o’r maes parcio yn Borthwen. Mae hefyd nifer o lwybrau yn croesi’r rhan hon o Ynys Cybi o’r gorllewin i’r dwyrain tuag at y Môr Mewndirol. Mae llwybrau ar hyd y clogwyni yn eich cymryd o gwmpas y pentir, gyda digon o gyfle i edmygu ffurfiadau plyg, cymhleth y creigiau. Mae hefyd yn werth edrych am forloi llwyd a welir yn aml yn yr ardal hon.

