Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Llanw isel yn Dulas gyda llong pren ar y tywod

Traeth Dulas Bae Lligwy

Llanw isel yn Dulas gyda llong pren ar y tywod

Mae Traeth Dulas rhwng Amlwch a Moelfre a thua 4 milltir i’r de ddwyrain o dref Amlwch.

Aber yr Afon Goch yw Traeth Dulas. Mae’n ffurfio rhan o dirwedd tywodlyd sy’n mynd i waered tua’r môr ym Mae Dulas. Mae Traeth Dulas yn cynnwys aber hir o laid, tywod a morfa heli, sy’n rhedeg o’r gogledd ddwyrain i’r de-orllewin.

Mae’r aber tua 1.2 milltir o hyd ac yn 0.5 milltir o led yn ei fan lletaf ac mae ardal y warchodfa yn gorchuddio tua 75 hectar. Caiff ei wahanu o’r môr agored gan dafod graean a thywod gyda chysylltiad â’r môr drwy sianel gul, tua 50m o led. Mae ffin o darren carreg galch sy’n codi’n serth ar ochr ddeheuol Traeth Dulas a thir amaethyddol a thir parc sy’n codi’n raddol i’r gogledd. Mae’r Afon Goch yn tarddu’n rhannol ar Fynydd Parys ac o ganlyniad mae’n llygredig gan y metelau o’r hen fwynglawdd. Mae ehangder gwastad yr aber yn gwrthgyferbynnu â tharren goediog sy’n codi’n serth ar yr ochr ddeheuol ac mae Mynydd Bodafon nid nepell i’r gorllewin. I’r gogledd mae’r tir yn codi’n raddol i gyfeiriad Mynydd Eilian. Mae’r cyfan yn ffurfio tirwedd deniadol dros ben, gyda golygfeydd arfordirol hardd, traethau tywodlyd, eang a golygfeydd panoramig i’r dwyrain tua’r Gogarth a thu hwnt. Gellir parcio ym mhen gorllewinol yr aber, ond byddwch yn ymwybodol fod yr ardal gyfan wedi’i orlifo pan fydd llanw uchel, felly mae angen gwirio’r tabl amseroedd llanw lleol cyn ymweld rhag ofn i chi gael eich dal gan y llanw.

Rhanbarth

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol


Cyfeiriad

Traeth Lligwy, Ynys Môn

gerllaw...