Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Golygfa o'r awyr yn edrych i lawr ar Gastell Biwmares a'r stryd fawr gyda'r Fenai y tu ôl

Biwmares

Golygfa o'r awyr yn edrych i lawr ar Gastell Biwmares a'r stryd fawr gyda'r Fenai y tu ôl

Mae Biwmares yn dref glan y môr hudolus gyda’i chymysgedd o bensaernïaeth canol oesol Georgaidd, Fictoraidd ac Edwardaidd

Mae ei henw yn seiliedig ar y geiriau Normanaidd ‘beau marais’, sy’n golygu cors deg, disgrifiad o’r safle a ddewiswyd gan Edward I ar gyfer yr olaf o’i ‘gylch haearn’ o gestyll, a adeiladwyd yn ei ymgais i reoli’r Cymry.

Un peth y mae’n rhaid ei wneud yw mynd am dro trwy’r dref, gan ddechrau trwy gerdded yn hamddenol ar hyd glan y môr, i weld y pier a’r golygfeydd dros Afon Menai ac Eryri ac wedyn ymlaen trwy’r strydoedd swynol gyda’u bythynnod hardd - mae llawer ohonynt wedi eu peintio mewn lliwiau pastel meddal.

Mae Castell Biwmares yn safle Treftadaeth y Byd ac fe’i adeiladwyd rhwng 1295-1330 i ffurfio llinellau consentrig perffaith gymesur o amddiffynfeydd. Mae iddo hefyd ffos a doc a oedd yn darparu mynediad i longau cyflenwi.

Mae nifer o gaffis, tafarndai, bwytai a gwestai bywiog ym Miwmares sy’n cynnig bwyd da sy’n addas ar gyfer pob chwaeth ynghyd â masnachwyr annibynnol sy’n cadw siopau o safon ardderchog.

 

Rhanbarth

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol


Cyfeiriad

Biwmares, Ynys Môn

Mwynderau

  • Caffi.
  • Hygyrch i'r anabl.
  • Croeso i goetsys.
  • Taliadau cerdyn.
  • Toiled anabl.
  • Croeso i gŵn.
  • Pwynt ailwefru cerbydau trydan
  • Cyfeillgar i deuluoedd
  • Croeso i grwpiau
  • Bar trwyddedig.
  • Parcio ar gael.
  • Trafnidiaeth cyhoeddus gerllaw
  • Lluniaeth
  • Bwyty
  • Siop
  • Toiledau
  • Wi-Fi ar gael

gerllaw...