Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Eglwys Sant Cyngar yn codi gyda mynedfa'r glyn ychydig i'r chwith a choed gwyrdd

Llangefni

Eglwys Sant Cyngar yn codi gyda mynedfa'r glyn ychydig i'r chwith a choed gwyrdd

Llangefni yw tref sirol Ynys Môn a’i phrif ganolfan weinyddol. Mae hefyd yn ganolfan ddiwylliannol o bwys.

Llangefni yw tref sirol Ynys Môn a’i phrif ganolfan weinyddol. Mae hefyd yn ganolfan ddiwylliannol o bwys.

Un o brif atyniadau Llangefni yw Oriel Môn, amgueddfa ac oriel gelf a adeiladwyd yn bwrpasol. Mae gan Oriel Môn lawer iawn i’w gynnig. Mae’r oriel wedi cael ei chanmol am ansawdd y siop sydd yno - Jac y Do - sy’n cynnig ystod eang o waith crefft ac am y caffi Blas Mwy ar ei newydd wedd sy’n boblogaidd gyda thwristiaid a phobl leol fel ei gilydd.

Gall ymwelwyr sy’n dymuno dysgu am hanes diwylliannol yr ynys fwynhau oriel hanes y ganolfan sy’n rhoi cyflwyniad i orffennol yr Ynys trwy sain, delweddau, atgynhyrchiadau ac arteffactau go iawn. Mae rhan o’r oriel hanes wedi ei neilltuo i un o artistiaid mwyaf blaenllaw bywyd gwyllt a chefn gwlad yr Ugeinfed Ganrif, Charles F. Tunnicliffe. Mae’r casgliad unigryw hwn o luniau yn cofnodi cyfoeth bywyd gwyllt Môn.

Mae gan Oriel Kyffin Williams raglen ddeinamig ac amrywiol o arddangosfeydd o waith yr artist. Mae hyn yn amrywio o gasgliad Oriel Môn ei hun i baentiadau a darluniau a fenthycwyd gan sefydliadau ac unigolion. Yn ystod y flwyddyn, bydd yr Oriel yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau - gweithdai ar gyfer plant a theuluoedd yn ogystal â sgyrsiau arbenigol.

Mae yna dafarndai a chaffis, yn ogystal ag amrywiaeth eang o gyfleusterau siopa yn Llangefni. Bydd y dref hefyd yn cynnal marchnad awyr agored fywiog ar ddydd Iau a dydd Sadwrn ac, yn ogystal, ceir canolfan hamdden a llain ymarfer golff.

Rhanbarth

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol


Cyfeiriad

Llangefni, Anglesey

Mwynderau

  • Caffi.
  • Croeso i goetsys.
  • Hygyrch i'r anabl.
  • Toiled anabl.
  • Croeso i gŵn.
  • Pwynt ailwefru cerbydau trydan
  • Cyfeillgar i deuluoedd
  • Croeso i grwpiau
  • Bar trwyddedig.
  • Trafnidiaeth cyhoeddus gerllaw
  • Lluniaeth
  • Bwyty
  • Toiledau
  • Siop
  • Wi-Fi ar gael

gerllaw...