Agorwyd Pont Grog Menai (Pont Menai) yn 1826 gan Thomas Telford. Hon oedd pont grog haearn gyntaf y byd ac mae’n 1,265 troedfedd / 305m o hyd, gyda rhychwant canolog o 579 troedfedd / 177m gyda’r lôn rhyw 98m troedfedd / 30m uwchben y dŵr i ganiatáu i longau hwylio fynd oddi tani. Mae Pont Britannia a agorwyd yn 1850 o ddyluniad prototeip bocs-drawstiau godidog gan William Fairbairn a Robert Stephenson. Fe’i hagorwyd yn wreiddiol i gludo traffig rheilffordd, ond fe’i haddaswyd yn strwythur dec dwbl yn dilyn tân trychinebus yn 1970. Mae bellach yn cludo traffig rheilffordd a thraffig ffordd.
Daw taith gerdded fer o ganol tref Porthaethwy â’r ymwelydd at waelod Pont Menai, o ble y gellir gwerthfawrogi orau faint gwirioneddol y strwythur hynod hwn. Mae’r Promenâd Belgaidd (a adeiladwyd gan ffoaduriaid Fflandrys yn ystod y Rhyfel Mawr rhwng 1914-16) yn arwain i’r de-orllewin oddi yma ac yn fuan fe gyrhaeddir sarn sy’n cysylltu Ynys yr Eglwys ac Eglwys hynafol Sant Tysilio â’r lan. Wrth gerdded o amgylch mynwent yr eglwys, ceir golygfeydd gwych o Afon Menai, y ddwy bont ac Ynys Gorad Goch, lle'r oedd y trigolion unwaith yn gwneud bywoliaeth o’r pysgod oedd yn cael eu dal yn y trapiau oedd wedi eu hadeiladu yno.
Mae detholiad o siopau diddorol ym Mhorthaethwy, gan gynnwys siopau hen greiriau, llyfrau a nwyddau haearn. Mae casgliad da o dafarndai a bwytai yn darparu ar gyfer pob chwaeth, gan gynnwys bwyd môr lleol.
- Meysydd parcio talu ac arddangos