
Anturiaethau a'r awyr agored: O ynys i ynys
Ar y daith hanner diwrnod hon cewch fwynhau mordaith i ynys fechan sy’n gyfoeth o fywyd gwyllt, oddi ar ben dwyreiniol Ynys Môn.

Darganfyddwch yr Afon Fenai gyda thaith mewn cwch. Yn gadael pier Fictoraidd Biwmares a Phorthaethwy yn rheolaidd, dyma un o'r ffyrdd gorau i weld amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt sy'n ffynnu ar foroedd a glannau Ynys Môn.
Enwyd Ynys Seiriol ar ôl y sant o’r 6ed ganrif a sefydlodd fynachlog yno, ac mae bellach yn hafan i niferoedd mawr o adar môr. Yn ystod y tymor bridio rhwng Ebrill a Gorffennaf fe allwch disgwyl gweld rhywogaethau fel gwylogod, llursod, gwylanod coesddu ac (wrth gwrs) palod, tra bod mulfrain a mulfrain gwyrddion i’w gweld drwy gydol y flwyddyn. Ochr yn ochr â’r trigolion pluog, mae yna boblogaeth frodorol o forloi llwyd, yn ogystal â llamidyddion ac ambell ddolffin.
Cinio neu swper: Mae sawl dewis yn Biwmares, am glasuron tafarn cartref neu gaffi.
