Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Tref a glan y môr Biwmares

Llwybrau llesol: Baeau bendigedig, adar anhygoel a hanes Biwmares

Rhanbarthau

Ar y daith hon byddwch yn ymweld â thraethau poblogaidd a thawel ac yn mwynhau golygfeydd godidog o’r môr a’r mynydd, gan orffen ym Miwmares.

Tref a glan y môr Biwmares
Cychwyn o
Moelfre
Gorffen yn
Biwmares
Pellter
Tua 24 milltir

Ar gyfer Moelfre a Thraeth Bychan, gweler taith arfordirol Gogledd Ynys Môn.

O Foelfre, dilynwch yr A5108/A5025 i Fenllech, canolfan wyliau boblogaidd. Mae’n hawdd gweld pam – mae yma drysorfa o draethau i’ch diddanu. Mae traeth euraidd Benllech, sydd â chlogwyn mawr yn gefn iddo ac sy’n wych ar gyfer nofio a phadlo, yn estyn tua’r de i Draeth Coch (gallwch yrru yma ar ôl cinio).

Cinio: Mae sawl caffi, bwyty a thafarn yn cynnig bwyd blasus ym Menllech, heb anghofio'r pysgod a sglodion gwych.

O Fenllech, dilynwch yr A5025 tua’r de am ychydig, gan droi tua Thraeth Coch, lle gwelwch olygfa Saharaidd – 10 milltir sgwâr/26 km sgwâr o dywod, pan mae’r llanw ar drai. Mae’r warchodfa natur ddynodedig hon yn hafan i fywyd gwyllt. Gall y plant chwilota am greaduriaid bach mewn pyllau glan môr, tra bod cyfle i wylwyr adar gael cip ar rydwyr ac adar dŵr.

Ailymunwch â’r A5025 am ryw filltir i Bentraeth, gan ddilyn y B5109 tua’r dwyrain am ychydig filltiroedd a throi i’r chwith i is-ffordd ar gyfer pentref Llanddona ac ymlaen i’w thraeth anghysbell, heddychlon (mae’r ffordd tuag ato’n gul a serth gyda mannau pasio, ac mae maes parcio wrth y traeth). Mae’r traeth hir, tywodlyd ym mhen dwyreiniol Traeth Coch yn boblogaidd ar gyfer gêmau teuluol, bordhwylio, caiacio a cherdded yr arfordir.

O’r traeth, dychwelwch i bentref Llanddona a dilynwch yr is-ffordd tua’r dwyrain i Fariandyrys a Llangoed, gan droi i’r chwith yma i is-ffordd sy’n arwain at Benmon a phentir Trwyn Du – pwynt mwyaf dwyreiniol tir mawr Môn – yn edrych dros Ynys Seiriol.

Mae Penmon yn gartref i briordy canoloesol sy’n dyddio’n ôl i tua’r 6ed ganrif (mae ‘na faes parcio yma). Mae’r safle hynafol hwn hefyd yn cynnwys ffynnon sanctaidd a cholomendy. O’r fan hon, gallwch ddilyn y dollffordd i Drwyn Du, sy’n cynnig golygfeydd ysblennydd y tu hwnt i’r goleudy ar y pentir (a adeiladwyd ym 1838 i ddynodi’r fynedfa i Afon Menai) i Ynys Seiriol, y Gogarth yn Llandudno a chopaon Eryri.

O Benmon, dilynwch yr is-ffordd arfordirol am filltir, fwy neu lai, i Draeth Lleiniog, traeth tywod a graean hir â choedwig yn gefn iddo (mae ‘na faes parcio/safle picnic yn y pen deheuol). Eto, cewch fwynhau mwy o olygfeydd godidog ar draws y Fenai i Eryri.

O’r fan hon, mae’n daith fer ar hyd y B5109 i Fiwmares.

Ar gyfer Biwmares, gweler taith arfordirol De Ynys Môn.