
Cymunedau a diwylliant: Tir a môr
Mae’r daith hanner diwrnod hon yn gymysgedd anarferol o straeon morwrol arwrol a thrasig ac ymweliad â ffendir hanesyddol a gyfanheddwyd gan gymunedau’r oes a fu

Er ei bod bellach yn bentref glan môr poblogaidd a phrydferth, natur dymhestlog y môr a luniodd orffennol Moelfre. Mae Gorsaf Bad Achub RNLI Moelfre, a sefydlwyd gyntaf ym 1836, wedi bod yn achubiaeth yng ngwir ystyr y gair, gan achub dros 1,000 o fywydau (maen nhw’n cynnal teithiau tywys yn yr haf). Ac mae’r Wylfan yna hefyd, amgueddfa a siop fach sy’n dathlu hanes morwrol cyfoethog y pentref a phwysigrwydd y môr i fywydau’r gymuned leol.
Mae’r swyddog bad achub Richard ‘Dic’ Evans (1905–2001) yn ymgorffori ysbryd y lle hwn. Mae ei gerflun efydd, sy’n addas o arwrol gyda Dic wrth y llyw, yn adlewyrchu dewrder a dyletswydd pob criw bad achub. Ond cofiwch chi, roedd Dic yn ŵr eithriadol. Fe achubodd 281 o fywydau ac mae’n un o lond dwrn o ddynion i ennill Medal Aur yr RNLI (y fersiwn forol o Groes Fictoria) ddwywaith.
Mae ‘na gofeb arall, ar Lwybr yr Arfordir i’r gogledd o’r pentref, sy’n adlewyrchiad ingol o natur anochel trasiedïau ar y moroedd stormus, er gwaethaf ymdrechion criwiau bad achub. Mae’n cofio’r Royal Charter, llong a ddrylliwyd ar y creigiau islaw ar 26 Hydref 1859. Collwyd dros 450 o fywydau wrth i’r llong suddo, yn dorcalonnus o agos i ben y daith hir o Awstralia i Lerpwl.
Atgof arall o’r drasiedi, a ddatgelwyd yn 2009, yw cofeb efydd y Royal Charter, i’r de o’r Orsaf Bad Achub. Mae’n dangos y cliper stêm yn brwydro tonnau anferthol ac ymdrechion arwrol un o’r goroeswyr, Giuseppi Ruggier, i achub tua 40 o fywydau.
Cymaint oedd effaith y drychineb nes i Charles Dickens ymweld â’r ardal a disgrifio ei sgil-effeithiau mewn casgliad o frasluniau llenyddol, The Uncommercial Traveller.
Ymlaen wedyn am ffendiroedd hanesyddol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Goch, tua’r tir mawr o Fenllech. Mae’n ddarn o East Anglia ar Ynys Môn – ardal atmosfferig o rostiroedd, gwelyau cyrs a gwlyptiroedd isel.
Dilynwch yr A5025 i’r de o Foelfre i Fenllech, gan droi i’r dde i’r B5108. Mewn ychydig dros filltir, trowch i’r chwith i is-ffordd sydd, mewn chwinciad, yn eich tywys i fynedfa Gwarchodfa Natur Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru Cors Goch (mae ambell i le parcio ar ymyl y ffordd wrth y brif fynedfa). O’r fan yma, dilynwch y trac i’r warchodfa.
Mae’n warchodfa bywyd gwyllt bwysig, gyda thegeirianau prin, pili-palod, adar ac amffibiaid (fe’i disgrifir yn llawn ar daith I’r Gwyllt Gogledd Ynys Môn – mae’r warchodfa ar y ffin rhwng Gogledd a Dwyrain Ynys Môn). Rydym yn talu sylw iddi yma oherwydd ei hanes hir o weithgarwch dynol, y ddealltwriaeth mae’n ei rhoi o gymunedau’r oes a fu a’r ymdeimlad o berthyn y mae tirwedd mor arbennig yn ei danio.
Roedd gwartheg yn pori yma, cyrs yn cael eu torri a cherrig yn cael eu cloddio i wneud meini melin. Mae gwartheg (a merlod) yn parhau i bori yma drwy gydol y flwyddyn, gan helpu i greu’r amodau agored sydd eu hangen ar lawer o’r planhigion a’r anifeiliaid i oroesi a ffynnu. Heddiw, mae’n rhan o rwydwaith rhyngwladol-bwysig o ffeniau ar yr ynys.
Ewch yn ôl i Fenllech am ginio.