Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Cornchwiglen mewn gwlyptir

Gwyddoniaeth, diwylliant a bywyd gwyll

Rhanbarthau

Fe brofwch bob emosiwn dan haul ar y daith hon; cymysgedd anghonfensiynol o natur ac uwch-dechnoleg.

Cornchwiglen mewn gwlyptir
Cychwyn o
Llangefni
Gorffen yn
Llangefni
Pellter
Tua 8.5 milltir

O Langefni dilynwch yr A5114 tua’r de, croeswch Wibffordd yr A55 a throwch i’r chwith yn syth i’r A5. Ar ôl rhyw filltir, ychydig cyn cyrraedd Pentre Berw, trowch i’r dde i’r is-ffordd i fynedfa a maes parcio gwarchodfa natur RSPB a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Cors Ddyga.

Yn wrthgyferbyniad llwyr i’r arfordir (sydd, gadewch i ni fod yn onest, yn hawlio’r rhan fwyaf o’r sylw yn Ynys Môn), mae’n un o’r llefydd gorau yn y DU i weld bywyd gwyllt. Mae’r warchodfa’n rhan o wlyptir iseldirol mwyaf Cymru; ehangder annaearol o welyau cyrs, corsydd, glaswelltiroedd gwlyb, ffosydd a llynnoedd bach.

Mae byrddau dehongli a llwybrau cerdded yn eich tywys o gwmpas y lle arbennig hwn. Dewch â’ch binocwlars am olwg graff ar amrywiaeth anhygoel o adar.

Mae’r rhywogaethau pwysicaf yn cynnwys y gornchwiglen (un o nythfeydd mwyaf Cymru), yr hwyaden lydanbig, yr ehedydd a boda’r gwerni (un o’u cynefinoedd prin yng Nghymru). Ond y mwyaf diddorol o bosib yw aderyn y bwn, aderyn cyfrinachol â chri daranllyd a oedd yn gyffredin mewn rhannau eraill o’r ynys ‘slawer dydd. Mae’r rhestr o rywogaethau’n faith. Mae eraill yn cynnwys y gïach cyffredin, y rhostog gynffonddu, y gylfinir a theloriaid.

Mae Cors Ddyga hefyd yn hafan i dros 30 rhywogaeth o blanhigion prin y gwlyptir (dewch yn y gwanwyn am arddangosfa drawiadol o flodau’r gwlyptir), gweision y neidr, chwilod dŵr, dyfrgwn a llygod dŵr. Mae rhywbeth i fynd â’ch bryd drwy gydol y flwyddyn, hyd yn oed yn y gaeaf pan mae’r gwlyptiroedd yn atseinio â chân adar y dŵr.

O’r warchodfa, dychwelwch i’r A5 a throi i’r dde i gyrraedd Gaerwen, a rhywbeth hollol wahanol. Mae Gaerwen yn gartref i Barc Gwyddoniaeth Menai neu M-SParc, canolfan arloesi, busnes a gwyddoniaeth ysbrydoledig sy’n ganolbwynt i fenter flaengar ar yr ynys. Mae ei gredo’n cyfleu’r cwbl: ‘Gyda’n gilydd rydym yn tyfu ac ysbrydoli, mae Parc Gwyddoniaeth Menai’n rhywle lle mae’r egni’n bresennol o’r eiliad y dewch drwy’r drws.’

Mwynhewch barc gwyddoniaeth cyntaf Cymru – mae croeso i bawb ddod ac eistedd gyda gliniadur, defnyddio’r wifi a mwynhau paned neu snac/cinio blasus yng Nghaffi Tanio.

Ar ôl cinio, ewch yn ôl i Langefni. Mae tref sirol Ynys Môn yn llawn diddordeb ac ysbrydoliaeth. Am gelf, diwylliant a threftadaeth ewch i Oriel Môn, amgueddfa amlweddog lle mae hanes yn cwrdd â chreadigrwydd. Neu beth am nofio i’ch adfywio? Plymiwch i’r pwll dan do 25m yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni.

Mae’r dref hefyd yn cynnig dihangfa hawdd yn ôl i fyd natur. Mae Gwarchodfa Natur Leol y Pandy ger canol y dref; ardal hyfryd o goetir a glannau sy’n fôr o glychau’r gog yn y gwanwyn (ac ambell fflach o goch ar unrhyw adeg o’r flwyddyn os byddwch yn ddigon ffodus i weld un o’r gwiwerod coch).