
Llwybrau’r annisgwyl: Cerddwch yn Olion Traed San Padrig
Dysgwch am gysylltiadau Gogledd Ynys Môn â nawddsant Iwerddon, yn ogystal â safleoedd morol a diwydiannol yn dyddio’n ôl i oes y Rhufeiniaid.

Treuliwch y bore’n archwilio arfordir gogleddol garw Ynys Môn. Dechreuwch yng Nghemaes a mynd tua’r dwyrain ar hyd yr A5025. Rydych chi ar eich ffordd i Borth Wen lle mae adfeilion hiraethog gwaith brics a harbwr o’r 19eg ganrif yn eistedd wrth ymyl traeth cerrig mân disglair.
Dyw hi ddim yn hawdd cyrraedd y llecyn hwn, ond mae’n werth chweil. Parciwch yn y gilfan oddi ar yr A5025, tua 1½ filltir/2.4km o Gemaes (lleoliad what3words.com: opposites.jaundice.balancing) a cherddwch ar hyd y lôn am ryw hanner milltir cyn dilyn y llwybr ar y dde i’r arfordir, lle gwelwch safle adfeiliedig o simneiau, odynau ac adeiladau gwaith yn sefyll uwchlaw’r tonnau.
Ar ôl dychwelyd i’ch car, ewch yn ôl ar hyd yr A5025 tua Chemaes am ryw filltir cyn troi i’r dde a dilyn yr arwyddion brown ar gyfer Eglwys Llanbadrig, sy’n eistedd ar bentir gwyntog yn edrych dros Fae Cemaes (mae ‘na faes parcio bach y tu allan i’r eglwys).
Yn ôl y chwedl, sefydlwyd yr eglwys yn OC440 gan San Padrig, a oroesodd longddrylliad yma drwy gysgodi mewn ogof sydd â’i ffynnon dŵr croyw ei hun. Yn ogystal â bod yr eglwys hynaf yng Nghymru, mae hefyd yn un o’r rhai mwyaf anarferol. Mae’r cerrig allanol syml yn gwrthgyferbynnu’n llwyr â’r tu mewn, a addurnwyd mewn arddull Fwraidd liwgar pan adnewyddwyd yr eglwys mewn steil go ddramatig ar ddiwedd y 19eg ganrif.
Os byddai’n well gennych dreulio llai o amser yn y car, gallwch ddarganfod Eglwys Llanbadrig, Porth Wen a llwyth o dirnodau eraill gogledd Ynys Môn ar daith gerdded gylchol hyfryd o Fae Cemaes (tua 5 milltir/8km o hyd).
Yna dilynwch yr A5025 drwy Amlwch i gyfeiriad Moelfre i Draeth Lligwy. Gallwch gyrraedd y traeth ar yr is-ffordd ar y chwith (yn Rhos Lligwy) cyn i chi gyrraedd Moelfre.

I’r de o’r traeth, dilynwch yr is-ffordd i Grŵp Cytiau Din Llugwy (mae lle i barcio ar ymyl y ffordd yn agos at y llwybr sy’n arwain at y safle hynafol).
Mae’r anheddfa hon o gytiau, tai crynion a gweithdai, sydd mewn cyflwr da, yn dyddio’n ôl i’r drydedd neu’r bedwaredd ganrif, pan oedd Prydain dan oresgyniad y Rhufeiniaid. Brythoniaid brodorol oedd yn byw yma fwy na thebyg. Darganfuwyd gefeiliau toddi a sorod haearn yma, sy’n awgrymu bod safle Din Llugwy wedi’i ddefnyddio ar gyfer gwaith metal. Tra’ch bod chi yma, mae’n werth mynd am dro i Siambr Gladdu Llugwy, beddrod Neolithig drawiadol ychydig gannoedd fetrau i ffwrdd.
Ewch ar hyd yr is-ffordd am ryw ½ milltir/0.8m arall cyn troi i’r chwith i’r A5108 i Wylfan Moelfre. Yma fe welwch y cerflun efydd trawiadol o Giuseppi Ruggier sy’n dyst i arwriaeth y morwr yn ystod un o longddrylliadau enwocaf Ynys Môn.
Pan gafodd cliper stêm y Royal Charter ei hyrddio i’r creigiau oddi ar arfordir Môn gan wyntoedd 112mya, ar 26 Hydref 1859, nofiodd Ruggier drwy’r tonnau enfawr a dringo’r clogwyni i osod rhaff ar y lan, gan achub bywydau 40 o deithwyr, ond bu farw 400 arall. Mae hanes Ruggier yn un o nifer o straeon morol diddorol sy’n cael eu hadrodd yn yr Wylfan.