Mae Tir Comin Llangoed a Choed Aberlleiniog yn Warchodfa Natur Leol ac yn Safle o Ddiddordeb Cadwraeth Natur (SDCN).
Mae gan y warchodfa rwydwaith gynhwysfawr o lwybrau troed a llwybrau pren, a digon o le i barcio mewn meysydd parcio cyhoeddus yn Llangoed ac ar draeth Lleiniog. Mae’r amrywiaeth o gynefinoedd yn cynnwys coetir llydanddail, coetir wedi’i blannu o goed ifanc llydanddail, glaswelltir sy’n gyfoethog mewn blodau, dolydd gwlyb a phrysgwydd. Mae nifer o byllau ar y safle, ac Afon Lleiniog sy’n llifo drwy’r warchodfa i’r môr yn Nhraeth Lleiniog. Mae hen goed deri hardd ar y llethrau islaw’r castell, ac mae arddangosfa brydferth o flodau gwyllt yn y gwanwyn gan rywogaethau fel craf y geifr, briallu, clychau’r gog, suran y coed a blodau’r gwynt. Mae’r warchodfa yn cynnal nifer o wahanol rywogaethau o adar y coetir, fel telor y coed, delor y cnau, y dringwr bach a choch y berllan. Gwelir sgrech y coed yn aml – gallwch eu clywed yn sgrechian yn aml – ac mae’r gigfran, y bwncath, y cudyll coch a’r dylluan wen yn magu yma. Cofnodwyd y tair rhywogaeth o gnocell y coed a welir ym Mhrydain yma.
Mae nifer o wahanol rywogaethau o ystlumod yn bresennol yng nghoetiroedd y warchodfa gan gynnwys yr ystlum mawr, yr ystlum hirglust, yr ystlum lleiaf a’r ystlum lleiaf meinllais. Os byddwch yn ddistaw, efallai y cewch eich gwobrwyo drwy gael cip ar y wiwer goch, ac mae hefyd yn werth chwilio am arwyddion o’r dyfrgi, yn arbennig ar y clogfeini dan y bont dros yr Afon Lleiniog. Rhai o’r mamaliaid eraill sy’n ymweld â’r warchodfa yw’r carlwm, y wenci a llyg y dŵr.

