Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Priordy Penmon dan awyr stormus dywyll yr haf gyda'r colomendy gwreiddiol yn y blaendir

Aberlleiniog, Llangoed a Penmon: archwilio

Priordy Penmon dan awyr stormus dywyll yr haf gyda'r colomendy gwreiddiol yn y blaendir

Mae Aberlleiniog, Llangoed a Penmon i gyd yn agos at ei gilydd yng nghornel de ddwyrain Ynys Môn

Gorchuddiwyd yr ardal gan goetir aeddfed, llydanddail yn bennaf, sy’n ffinio Afon Menai. Mae’n gorwedd oddi fewn i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn (AHNE).

Mae’r tirwedd rhwng tref Biwmares a Thrwyn Du yn rhyfeddol o atyniadol, gyda golygfeydd syfrdanol, pellgyrhaeddol o Afon Menai, arfordir tir mawr Gogledd Cymru, y Gogarth a’r Wyddfa fawreddog a chadwyn o fynyddoedd y Carneddau.

Mae gan bentref tlws Llangoed ei Warchodfa Natur Leol, a Chastell Aberlleiniog - gyda mwnt a beili Normanaidd adferedig o’r 11 ganrif - yn ei ganol. Mae pentref hudolus Penmon o fewn milltir i Langoed, ac wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â llwybrau drwy Barc Ceirw Penmon (oedd yn hanesyddol yn cadw ceirw) ac ymlaen i Briordy Penmon, Trwyn Du ac o amgylch chwareli carreg galch nodedig yr ardal.

Mae Trwyn Du yn ymhyfrydu mewn goleudy streipïog du a gwyn, a golygfeydd godidog ar draws Swnt Seiriol i Ynys Seiriol. Mae gan Benmon gyfoeth o atyniadau hanesyddol, sy’n cynnwys Priordy hynafol, Eglwys a cholomendy. Mae maes parcio (tâl isel am aros yno) yn union wrth ochr yr adeiladau.

Mae maes parcio yng nghanol Llangoed, ac mae meysydd parcio ar draeth Lleiniog a’r Trwyn Du. Mae nifer o lwybrau i fynd am dro yn yr ardal, gan gynnwys Llwybr Arfordirol Môn, sy’n cynnig cyfle da i archwilio a gwerthfawrogi’r gwahanol gynefinoedd sydd yn yr ardal a nodweddion y tirwedd.

Teithlenni

Tri safle sy’n gysylltiedig â threftadaeth, tirwedd a bywyd gwyllt. Mae peth teithio rhyngddynt.

Rydym wedi ychwanegu pwyntiau cyfeirio what3words i'ch helpu i ddod o hyd i'r lleoliadau hyn.

Castell Biwmares: 3 awr

///waged.flickers.drizzly

Safle Treftadaeth y Byd gyda maes parcio cyfagos. Amryw o atyniadau twristaidd yn y dref.

Castell Aberlleiniog: 2 awr

///digital.outright.opened

Heneb restredig a gwarchodfa natur.

Dau faes parcio rhad ac am ddim

  • Maes parcio pentref Llangoed, gyda 200m o gerdded i fynediad y warchodfa. ///rummage.traps.relocated
  • Maes parcio Traeth Lleiniog gyda 200m o gerdded i fynediad y warchodfa. ///stay.portfolio.messed

Mynedfa hefyd o’r lôn i’r gogledd (dim parcio). Llwybrau a llwybrau pren a mynedfa i’r castell Normanaidd tomen a beili adferedig. Llwybrau drwy’r cymysgedd eang o goetir hynafol hanner naturiol a choetir newydd ei phlannu a gweirglodd wlyb. Ardderchog i adar y coetir a lle dymunol iawn i gael picnic!

Trwyn Du, Penmon: 2 awr

///fishery.inflating.bunch

  • Maes parcio – talu.
  • Priordy hanesyddol, eglwys a cholomendy.
  • Caffi a siop cofroddion.
  • Llwybrau cerdded o amgylch pentir Trwyn Du.
  • Golygfeydd gwych o’r mynyddoedd ac ar draws y swnt i Ynys Seiriol.
  • Goleudy Trwyn Du.
  • Llawer o adar môr o bob math – cytref fawr o adar môr a morloi ar Ynys Seiriol.

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol


Cyfeiriad

Penmon, Beaumaris LL58 8SP

Mwynderau

  • Cyfeillgar i deuluoedd
  • Croeso i grwpiau
  • Parcio ar gael

gerllaw...