Llwybr Arfordirol Ynys Môn
Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn datblygu llwybr hirbell sy’n dilyn cryn dipyn o forlin yr ynys. Mae’r llwybr yn addas ar gyfer cerddwyr yn bennaf, ond fel ellir mwynhau rhai rhannau ar gefn beic neu geffyl.
Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) sy’n cynnwys 95% o’r arfordir. Mae’n pasio drwy dirwedd sy’n cynnwys cymysgedd o dir fferm, rhostir arfordirol, twyni, morfa heli, blaendraethau, clogwyni ac ambell i boced fach o goetir. Ymhlith y rhain y mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG).
Ffeil ffeithiau
Hyd: 130 milltir / 200km
Esgyniad / disgyniad dros y llwybr cyfan: 4,174 medr / 13,695 troedfedd
Man cychwyn swyddogol: Eglwys Sant Cybi, Caergybi (cyfeirnod grid SH247 826)
Cyfartaledd nifer y dyddiadau i'w gwblhau'r daith: 12
Trefi / pentrefi yn uniongyrchol ar y llwybr: 20
Oes modd cwblhau pob rhan yn defnyddio cludiant cyhoeddus: Oes
Uchafbwyntiau
Mynydd Twr (y pwynt uchaf ar yr ynys), goleudy a chlogwyni môr Ynys Lawd, bwâu môr ym Mwa Gwyn (Rhoscolyn), Ynys y Fydlyn (Pen Bryn yr Eglwys), a Phorth Wen, Ynys Llanddwyn, Pont y Borth, Pont Britannia, eglwysi Llangwyfan (Aberffraw) Llanbadrig a Sant Tysilio (Porthaethwy), Gwarchodfa Natur Cemlyn, a Thrwyn a Phriordy Penmon. Hefyd Brain Coesgoch, Hebogau Tramor, Gwenoliaid y Môr, Llamhidyddion, Morloi a blodau gwyllt y gwanwyn.
Cyfeillion y Llwybr Arfordirol
Gwobrwyir unrhyw un sydd wedi cwblhau'r 130 milltir o'r Llwybr arfordirol gyda bathodyn arbennig a thystysgrif yn adnabod y gamp. I hawlio eich bathodyn llenwch y ffurflen arlinell ar safle we Cyfeillion y Llwybr Arfordirol.
Disgrifiadau llwybr a mapiau
Mae'r ynys wedi'i rhannu i mewn i 12 adran. I ddod o hyd i fwy o wybodaeth am daith gerdded arbennig, dilynwch y dolenni isod:-
• Caergybi i Porth Trwyn (Llanfaethlu)
• Porth Trwyn (Llanfaethlu) i Cemaes
• Cemaes i Porth Amlwch
• Porth Amlwch i Moelfre
• Moelfre i Pentraeth
• Pentraeth i Biwmares
• Biwmares i Llanfairpwll
• Moel y Don i Llyn Rhos Ddu
• Llyn Rhos Ddu i Aberffraw
• Aberffraw i Pontrhydybont
• Pontrhydybont i Trearddur
• Trearddur i Caergybi
Gadewch i'r arbenigwyr lleol drefnu eich gwyliau cerdded neu beicio ar lwybrau arodirol a threftadaeth yr ynys. mae pecynnau yn cynnwys llety, trosglwyddiadau, mapiau a chynllunwyr taith ynghyd a'n gwasanaeth cefnogol llawn.
Toiledau cyhoeddus
I weld rhestr a map o doiledau cyhoeddus ar Ynys Môn, gweler safle we Cyngor Sir Ynys Môn - toiledau cyhoeddus.