Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Beiciau a cherdded: Ar droed

Rhanbarthau

Mae Llwybr Arfordir Ynys Môn, sy’n 125 milltir/201km o hyd, yn brofiad na ddylai unrhyw gerddwr gwerth ei halen ei golli.

teulu'n cerdded ar y traeth gyda'r haul uwchben

Llwybr Arfordir Ynys Môn

Mae Llwybr Arfordir Ynys Môn, sy’n 125 milltir/201km o hyd, yn brofiad na ddylai unrhyw gerddwr gwerth ei halen ei golli. Yn dilyn glannau’r ynys gyfan, mae’n igam-ogamu drwy dirwedd newidiol o draethau euraidd, clogwyni geirwon, ffermdir ffrwythlon, twyni tywod di-ben-draw a morfa heli hyfryd.

Er ei hyd, nid dim ond pobl sy’n caru cerdded all ei fwynhau. Er y gallwch ymlwybro mewn llinell, mae yna hefyd ddewis o lwybrau cylchol haws sy’n brolio ein harfordir tra’n arwain yn ôl i’ch man cychwyn, sy’n eithaf handi.

Gan ddechrau o Gaergybi, mae Llwybr Arfordir Ynys Môn wedi’i rannu’n 12 adran o wahanol hyd. I roi blas ar bob un i chi, rydym wedi cynnwys rhai o’r uchafbwyntiau yn y rhestr ganlynol. I weld y darlun cyfan, cliciwch ar y dolenni am fapiau a disgrifiadau manwl o’r llwybrau.

Caergybi i Borth Trwyn (14 milltir/22.5km)

Eglwys Cybi, glannau Afon Alaw a golygfeydd o borthladd prysur Caergybi.

Caergybi i Borth Trwyn.

Porth Trwyn i Gemaes (10½ milltir/17km)

Trwyn Carmel ym mhen gogledd-orllewinol yr ynys a’r bwa anarferol a saernïwyd gan y môr yn Ynys y Fydlyn.

Porth Trwyn i Gemaes.

Cemaes i Borth Amlwch (7½ milltir/12km)

Eglwys hanesyddol Llanbadrig ac adfeilion atmosfferig hen waith brics Porth Wen.

Cemaes i Borth Amlwch.

Porth Amlwch i Foelfre (12½ milltir/20km)

Traethau hardd yr Ora a Lligwy a phentref glan môr prydferth Moelfre.

Porth Amlwch i Foelfre.

Moelfre i Bentraeth (6 milltir/9.5km)

Creigiau trawiadol rhwng Traeth Bychan a Benllech, a llethrau coediog hyfryd Mynydd Llwydiarth a Thraeth Coch.

Moelfre i Bentraeth.

Pentraeth i Fiwmares (12½ milltir/20km)

Caer Oes yr Haearn, Priordy Penmon (sy’n dyddio o’r 12fed ganrif) a chastell canoloesol campus Biwmares.

Pentraeth i Fiwmares.

Biwmares i Foel y Don (7 miltir/11km)

Cerddwch o dan y ddwy bont sy’n cysylltu’r ynys â thir mawr Cymru a heibio i dŵr trawiadol y Marcwis.

Biwmares i Foel y Don.

Moel y Don i Lyn Rhos-ddu (11½ milltir/18.5km)

Glannau Afon Menai gyda golygfeydd o Gastell Caernarfon ar draws y dŵr.

Moel y Don i Lyn Rhos-ddu.

Llyn Rhos-ddu i Aberffraw (12 milltir/19km)

Gwarchodfa Natur Niwbwrch ac adfail eglwys Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru.

Llyn Rhos-ddu i Aberffraw.

Aberffraw i Bontrhydybont (13 milltir/21km)

Eglwys fechan Porth Cwyfan, sydd ar ei hynys fach ei hun, a childraeth cudd Porth Trecastell.

Aberffraw i Bontrhydybont.

Pontrhydybont i Fae Trearddur (9 milltir/14.5km)

Clogwyni trawiadol ac arfordir garw yn dringo i uchelfannau Pentir Rhoscolyn, sy’n cynnig golygfeydd godidog o Ynys Gybi.

Pontrhydybont i Fae Trearddur.

Bae Trearddur i Gaergybi (11½ milltir/18.5km)

Yn pasio clogwyni Ynys Lawd, sy’n fwrlwm o adar, a’i goleudy gwyn eiconig sy’n eistedd ar ei ynys ei hun dafliad carreg o’r arfordir.

Bae Trearddur i Gaergybi.

Llwybr cylchol

Os yw llwybr cylchol yn swnio’n fwy cyfleus i chi, gallwch ddarganfod arfordir a chefn gwlad yr ynys mewn cyfres o gylchoedd. 

Mapiau a disgrifiadau llwybr

  • Brynrefail
  • Brynsiencyn
  • Porth Llechog
  • Bae Cemaes
  • Mynydd Tŵr
  • Llanddona
  • Llaneilian
  • Pentraeth
  • Rhoscolyn
  • Rhosneigr

Y Cod Cefn Gwlad

Mae’r Cod yn cynnig cyngor ar fwynhau eich ymweliad â chefn gwlad a sut i’w ddiogelu drwy ymddwyn yn gyfrifol. Mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd cynllunio ymlaen llaw, cadw’n ddiogel, rheoli eich ci o gwmpas da byw ac atal tanau.

Mae crynodeb o'r cod yma, neu gallwch weld y fersiwn llawn o'r Cod.

Parchwch bawb

  • byddwch yn ystyriol o’r rhai sy’n byw, gweithio a threulio eu hamser hamdden yng nghefn gwlad
  • gadewch gatiau ac eiddo fel yr oedden nhw pan gyrhaeddoch chi
  • peidiwch â rhwystro mynediad i gatiau neu ddreifiau wrth barcio
  • byddwch yn ddymunol, dywedwch helo, rhannwch y lle
  • dilynwch arwyddion lleol a chadwch at lwybrau sydd wedi’u marcio oni bai bod mynediad ehangach ar gael

Diogelwch yr amgylchedd

  • ewch â’ch sbwriel adref gyda chi – peidiwch â gadael dim ar ôl
  • peidiwch â chynnau tanau a pheidiwch â chael barbeciw oni bai bod arwydd yn dweud bod hynny’n iawn
  • cadwch eich cŵn dan reolaeth ac mewn golwg bob amser
  • baw ci – i’r bag, i’r bin (mae unrhyw fin gwastraff cyhoeddus yn iawn) neu ewch ag ef adref gyda chi
  • gofalwch am natur – peidiwch ag achosi difrod na tharfu ar unrhyw beth

Mwynhewch yr awyr agored

  • cadarnhewch eich llwybr a’r amodau lleol
  • cynlluniwch eich antur – gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl a beth rydych chi’n gallu gwneud
  • mwynhewch eich ymweliad, gwnewch atgofion i’w trysori

Dod i adnabod arwyddion a symbolau cefn gwlad